1.
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.
Chorus:
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad,
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,
O bydded i’r heniaith barhau.
2.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd;
Pob dyffryn, pob clogwyn, i’m golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i fi.
Chorus
3.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Chorus